Meddai Robin, "Rwyf wrth fy modd. Dyma'r anrhydedd mwyaf y gall Cymro ei dderbyn. Rwyf yn dilyn ôl traed rhai o enwau mawr byd rygbi trwy gael fy ngwneud yn aelod o'r Orsedd.
"Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn imi. Y Gymraeg yw iaith gyntaf fy nau blentyn, rydyn ni'n siarad Cymraeg adref ac yn byw mewn cymuned Gymraeg ei hiaith yng Nghwm Gwendraeth. Rydw i'n defnyddio'r Gymraeg pryd bynnag y gallaf - yn fy ngwaith gyda chwaraewyr a hyfforddwyr yn Undeb Rygbi Cymru - ac yn fy mywyd preifat.
"Mae'n bwysig fod y Gymraeg yn parhau'n iaith fyw a bod plant ifanc yn ei gweld felly gan ei bod yn rhan mor bwysig o'n treftadaeth a'n hanes balch, ac os na ddefnyddiwn ni i mohoni, byddwn yn ei cholli fel y collwyd llawer o ieithoedd lleiafrifol eraill."
Ar hyn o bryd, mae Robin McBryde yn gweithio gyda chwaraewyr ifanc dethol Cymru yn nhrefn academi ranbarthol Undeb Rygbi Cymru a bu ar daith i'r Ariannin gyda Chymru'n ddiweddar fel hyfforddwr y blaenwyr.






