23 Tach 18
Clywch Rowland a Carys Phillips yn sôn am yr her fwyaf yr hydref penwythnos yma yn erbyn Canada.?
Roland Mercer
• Anaf i'r ymennydd yw cyfergyd
• Mae pob achos o gyfergyd yn ddifrifol
• Yn aml, gall cyfergyd ddigwydd heb fod yr unigolyn yn mynd yn anymwybodol
• Rhaid i chwaraewyr sy'n dangos unrhyw arwyddion o gyfergyd neu unrhyw symptomau cyfergyd gael eu hanfon o'r cae chwarae neu'r cae hyfforddi yn syth
• Rhaid sicrhau nad yw chwaraewyr yn dychwelyd i chwarae ar yr un diwrnod ag yr amheuir eu bod wedi dioddef cyfergyd
• Dylai pob chwaraewr* sydd wedi dioddef cyfergyd gael ei gyfeirio at ymarferydd meddygol
• Rhaid sicrhau nad yw chwaraewyr yn ailafael mewn unrhyw gamp sy'n golygu cyswllt corfforol llawn â chwaraewyr eraill, nes bydd wedi cael cymeradwyaeth gan ymarferydd meddygol
• Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella o gyfergyd ar ôl gadael i'w corff a'u hymennydd orffwys
• Efallai y bydd plant a phobl ifanc yn cymryd mwy o amser i wella ar ôl dioddef cyfergyd
• Gall cyfergyd ddigwydd heb fod yr unigolyn wedi dioddef ergyd amlwg i'w ben
• Dylid Adnabod ac Anfon o'r Cae unrhyw chwaraewyr sydd wedi dioddef cyfergyd, er mwyn atal unrhyw anaf pellach neu farwolaeth hyd yn oed
* Er mai enw gwrywaidd yw 'chwaraewr' yn y Gymraeg, dylid cymryd ei fod bob amser yn cyfeirio at fechgyn a merched yn y ddogfen hon.
• Anaf trawmatig i'r ymennydd yw cyfergyd, sy'n amharu ar y modd y mae'r ymennydd yn gweithio
• Mae gan gyfergyd lawer o symptomau. Mae'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys cur pen, penysgafnder, problemau cofio a phroblemau cadw cydbwysedd
• Bydd unigolyn yn mynd yn anymwybodol neu'n cael ei lorio mewn llai na 10% o'r holl achosion o gyfergyd sy'n digwydd
• Nid oes yn rhaid bod chwaraewr wedi bod yn anymwybodol i gael diagnosis o gyfergyd
• Bydd sgan o'r ymennydd yn ymddangos yn normal fel rheol
Gall cyfergyd gael ei achosi gan ergyd uniongyrchol i'r pen, ond gall ddigwydd hefyd pan fydd ergydion i rannau eraill y corff yn peri i'r pen symud yn sydyn (e.e. anafiadau tebyg i anafiadau atchwipio).
Gall cyfergyd ddigwydd i unrhyw un o unrhyw oed. Fodd bynnag, mae chwaraewyr sy'n blant ac yn bobl ifanc*:
• Yn fwy tueddol o ddioddef cyfergyd
• Yn cymryd mwy o amser i wella
• Yn dioddef problemau gwaeth o safbwynt cofio a phrosesu meddyliol
• Yn fwy tueddol o ddioddef cymhlethdodau niwrolegol prin a pheryglus, a allai arwain at farwolaeth mewn rhai amgylchiadau oherwydd bod yr ymennydd yn chwyddo (caiff hynny ei alw'n syndrom ail effaith)