Os olrheiniwch chi wreiddiau rygbi nôl i’r pelau llaw a chwaraewyd gan y Rhufeiniaid mewn caerau fel Caerleon a Chaerwent, y gêm ddi-drefn a adwaenid yn Normandy fel ‘La Soule’, y gêm o Gernyw, yr ‘Hurling’, yn dyddio nôl i’r Oes Efydd neu frwydrau rhyng-bentrefol y ‘Cnappan’ yn Sir Benfro yn yr ail ganrif ar bymtheg, does dim gwadu nad yw’r gêm yn rhan hanfodol o waedlif y genedl Gymreig.
Cyflwynwyd rygbi’r undeb gyntaf i Gymru yng Ngholeg Llanbedr Pont Steffan yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ddefnyddio rheolau Ysgol Rugby (os ydym i gredu, y bachgen ysgol William Web Ellis symbylodd y gêm wrth chwarae gêm o bêl-droed yn 1823 yn Ysgol Rugby, Swydd Warwick; gan dorri’r rheolau, yn ôl yr hanes, gafaelodd Ellis yn y bêl a rhedeg ar hyd y cae. Chwedl neu beidio, mae tlws Cwpan Rygbi’r Byd yn dwyn ei enw hyd heddiw).
Egwyddorion Sylfaenol
Chwaraeir gêm rygbi’r undeb ar gae glaswellt sydd heb fod yn mesur mwy na 75 metr o led a 100 metr o hyd. Mae hefyd ardal ar bob pen i’r cae, sy’n mesur rhwng deg a 22 metr, a enwir yn ardal y bêl farw (mae pêl farw yn digwydd pan yw naill ai’n mynd mewn i’r rhan hon o’r cae neu pan fydd dyfarnwr yn arwyddo cic gosb neu saib arall yn y gêm). Mae pyst gôl yn sefyll yng nghanol pob pen o’r cae, ar y llinell gais, wedi’u ffurfio fel llythyren fawr H. Mae’r pyst yn mesur 5.6 metr ar draws, gyda’r post llorweddol dri metr o’r ddaear.
Fel bron yn yr holl chwaraeon eraill, prif nod y ddau dîm yw sgorio cymaint o bwyntiau â phosib erbyn diwedd y gêm. Chwaraeir gêm dros bedwar ugain munud, yn cael ei rhannu’n ddau hanner o ddeugain munud, gydag amser ychwanegol am ataliadau ac anafiadau, oni bai, fel mewn rygbi Prawf rhyngwladol, y bydd y cloc yn peidio bob tro y digwydd atal chwarae a bydd y gêm/cyfnod hanner amser yn gorffen cyn gynted ag y bydd y bêl yn mynd yn farw wedi i ddeugain munud gael eu chwarae.
Cynhwysa pob tîm bymtheg chwaraewr, gyda hyd at saith o ddisodlwyr ar gael i bob tîm. Mae wyth o’r nifer hon yn gwneud i fyny’r ‘Blaenwyr’, chwaraewyr wedi’u rhifo o un i wyth, a’r saith sy’n weddill yw’r ‘Cefnwyr’, yn gwisgo crysau wedi’u rhifo o naw i bymtheg.
Dechreuir gêm o rygbi gyda chic o ganol y cae, ac wedi i sgôr ddigwydd mae hyn hefyd yn cymryd patrwm ailgychwyn y gêm. Mae’n rhaid i’r bêl deithio o leiaf ddeg metr i dir y gwrthwynebwyr ar ddechrau’r gêm a phob tro yr ailgychwynnir y gêm wedi hynny, mae’n rhaid i’r gwrthwynebwyr fod o leiaf ddeg metr o’r llinell hanner wrth ailgychwyn.
Mae’r timoedd yn symud y bêl i fyny’r cae er mwyn ymosod ar dir eu gwrthwynebwyr gyda’r nod o gyrraedd y llinell gais a sgorio cais drwy osod y bêl i lawr dros y llinell gais yn ardal y mewngais. Mae dwy ffordd i aelodau’r tîm â’r bêl yn eu meddiant symud i fyny’r cae, naill ai drwy redeg gan gario’r bêl a’i phasio nôl i gyd-chwaraewyr, neu drwy gicio’r bêl ymhellach i mewn i dir y gwrthwynebwyr gyda’r bwriad o naill ai drechu’r gwrthwynebiad i’r bêl er mwyn parhau i ymosod, caniatáu i’r gwrthwynebwyr ddal y bêl ac yna roi pwysau arnynt yn eu tir eu hunain neu drwy gicio’r bêl dros yr ystlys ar ochr y cae. Lein yw canlyiad cicio’r bêl dros yr ystlys, a roddir i’r tîm sy’n amddiffyn; mae hyn yn cynnwys nifer o chwaraewyr (fel arfer y blaenwyr) yn ffurfio llinell mewn lljnellau cyfochrog ar y pwynt lle ciciwyd y bêl dros yr ystlys, gyda’r nod o ennill meddiant y bêl a deflir i mewn gan y bachwr.
Mae’n rhaid i’r bêl gael ei phasio tuag yn ôl o chwaraewr i chwaraewr, byth ymlaen gan y byddai hwnnw’n symudiad anghyfreithlon ac yn arwain at sgrym i’r gwrthwynebwyr. Bydd y gwrthwynebwyr yn ceisio taclo’r chwaraewr sy’n cario’r bêl i’r tîm sydd â’r meddiant. Ni ellir gwneud tacl ond ar y sawl sy’n cario’r bêl, ac mae’n golygu llorio cludydd y bêl gyda symudiad ar neu islaw’r ysgwyddau (caiff unrhyw dacl yn uwch na’r ysgwyddau ei chyfrif yn beryglus a’r canlyniad fyddai rhoi cic gosb). Unwaith y caiff chwaraewr ei lorio, mae’n rhaid iddo ef/hi ryddhau’r bêl, mae cyd-chwaraewyr y tîm wedyn yn ffurfio ryc er mwyn adennill y bêl. Ar y llaw arall, wedi ymgais i daclo chwaraewr, a’r chwaraewr heb ei lorio, gan arwain at ddaliad, gellir ffurfio sgarmes. Sgarmes yw lle ymuna’i gyd-chwaraewyr/chyd-chwaraewyr â’r chwaraewr/wraig a ddelir gan y gwrthwynebwyr mewn sgrym ‘rydd’ gan symud y bêl i fyny’r cae drwy’i gyrru ymlaen a gwrthsefyll grym y gwrthwynebwyr.
Mae’r chwarae’n parhau’n unol â’r egwyddorion hyn tan i dîm sgorio neu tan i drosedd gael ei chyflawni, gan arwain at gic gosb. Rhoddir ciciau cosb os yw’r gwrthwynebwyr yn cyflawni trosedd neu symudiad anghyfreithlon. Mae pedair ffordd o gymryd y gic gosb sy’n dilyn, ac o wneud hynny ailgychwyn y gêm:
Tapio a rhedeg: Dyma gic gosb a gymerir yn gyflym, a arwyddir drwy gicio’r bêl yn weledol am bellter byr (fel arfer i ddwylo’r sawl sy’n cymryd y gic gosb), i fanteisio ar y ffaith fod y gwrthwynebwyr yn cilio ac efallai’u hamddiffyn yn ddi-drefn.
Sgrym: Gallai’r tîm sy’n ymosod fanteisio ar sgrym, yn enwedig os yw yn agos i’r llinell gais gyda’r bwriad o geisio cyd-wthio ac ennill cais.
Cicio dros yr ystlys: Defnyddir y dechneg hon yn bennaf i ennill tipyn o dir, mae’r tîm sydd â’r gic gosb yn ennill y lein sy’n ganlyniad cic dros yr ystlys.
Cicio at y gôl: Mae cic gosb, os yw’n llwyddiannus, werth tri phwynt i dîm. Os yw’r gic yn aflwyddiannus a’r bêl yn mynd yn farw, (naill ai drwy fynd dros yr ystlys y tu allan i’r ardal o fewn y gôl neu drwy gael ei dal gan aelod o’r tîm sy’n amddiffyn a’i thirio yn yr ardal o fewn y gôl), rhoddir cyfle i adlamu cic ar y llinell 22 metr i’r tîm sy’n amddiffyn.
Gellir sgorio pwyntiau mewn amrywiol ffyrdd:
Cais: Mae sgôr cais, sy’n werth pum pwynt, yn digwydd pan fydd chwaraewr yn cario ac yn tirio’r bêl dros linell gais y gwrthwynebwyr. Gan mai hwn yw’r symudiad uchaf ei bwyntiau yn y gêm, dyma’n aml yw nod pennaf y tîm, sef sgorio cymaint â phosib o geisiau.
Trosiad: Nid yw trosiad, sy’n werth dau bwynt, yn digwydd ond ar ôl i gais gael ei sgorio. Nod y tîm sy’n sgorio cais yw cicio’r bêl dros a thwy’r pyst, y gic yn digwydd yn unol â’r man lle tiriwyd y bêl ar gyfer y cais.
Gôl gosb: Pan roddir cic gosb i dîm o ganlyniad i drosedd a gyflawnwyd gan y gwrthwynebwyr, un o’r dewisiadau sydd gan dîm, os yw’n ddigon agos i’r pyst gôl, yw ceisio cicio am gôl. Os cicir y bêl rhwng y ddau ystlysbost a thros y bar llorweddol, rhoddir tri phwynt i’r tîm.
Gôl Adlam: Dyma ddull o sgorio sy’n cynyddu mewn pwysigrwydd yn y gêm fodern, digwydd gôl adlam wrth i’r gêm ddatblygu, neu yn y chwarae agored, pan gicia chwaraewr, sy’n ddigon agos i’r pyst gôl, y bêl rhwng y pyst a thros y bar drwy’n gyntaf daro’r bêl ar y llawr a chicio tuag at y pyst yn union wedi i’r bêl gyrraedd ei ddwylo. Mae gôl adlam yn werth tri phwynt.
Cais Gosb: Ar achlysuron prin gellir rhoi cais i dîm gan ddyfarnwr y gêm. Digwydd hyn pan fydd y tîm sy’n amddiffyn wedi cyflawni trosedd sydd wedi mwy na rhwystro’r tîm arall rhag sgorio cais, neu os yw’r gwrthwynebwyr dro ar ôl tro yn torri rhedfa’r chwarae yn agos at y llinell gais.
Rheolir pob gêm gan ddyfarnwr a dau lumanwr:
Un Dyfarnwr: Swyddog ar y cae sy’n rheoli’r holl benderfyniadau ar y cae
Dau Lumanwr: Lleolir Llumanwr ar ochr y cae (yr ystlys) ac mae’n monitro lle mae pêl neu chwaraewr yn mynd dros yr ystlys. Mae Llumanwyr hefyd yn rheoli a yw trosiadau a golau cosb yn llwyddiannus ac mae ganddynt ddyletswyddau ymgynghorol pellach i’r dyfarnwr ar lefel elité parthed cynghori’r dyfarnwr ynghylch troseddu a symudiadau anghyfreithlon.
Swyddogion Pellach / Swyddog Teledu’r Gêm: Ar ddiwedd gêm elité, gellir defnyddio llumanwyr pellach i arsylwi’r eilyddio a’r disodli a gellir galw ar swyddog teledu’r gêm, y TMO neu’r dyfarnwr fideo, i gloriannu penderfyniad drwy ddefnyddio’r ffilm deledu os na all yr un o’r llumanwyr na’r dyfarnwr wneud penderfyniad clir ynghylch digwyddiad sgorio cais mewn gêm.
Amrywiadau Arbrofol yn y Gyfraith
Yn nhymor 2008/9 cyflwynodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol nifer o Amrywiadau Arbrofol yn y Gyfraith neu AAGa (ELV's.). Er mwyn dod i wybod mwy am ELV's a fyddech gystal â chlicio ar y cyswllt hwn http://www.irb.com/ELVs/
|