|
Anghofiwch am yr “Xfactor” a’r “Wow ffactor” ar y teledu yr unig beth sy’n sgubo drwy Gymru ar y funud yw’r “Gat ffactor”. Ychydig dros fis mae e wedi bod yn y swydd ond mae hyfforddwr newydd Cymru wedi bod yn codi eiliau a chreu penawdau i’r fath graddau nad oes neb yn gwybod beth i’w ddisgwyl nesa.
Dewis tri ar ddeg o’r Gweilch yn ei bymtheg cynta; newid y tim cynta i ennill yn Twickenham am ugain mlynedd a dweud pam yn blwmp ac yn blaen; symud Cymru i stafell newid y tim oddicartre yn Stadiwm y Mileniwm; eilyddio’r capten a’r hanneri poblogaidd pan oedd dim ond dau bwynt o fantais gem gartre gynta’r bencampawriaeth ac yna newid yr hanneri a rheng flaen gyfan y tim a’i gwnaeth hi’n ddwy fuddugoliaeth allan o ddwy. Ofn cymryd penderfyniadau anodd? Mae’r dyn yn amlwg yn ffynnu arnyn nhw.
Ac mae’r un yn wir am y gwr ar ei ddeuheulaw Shaun Edwards. Does rhyfedd mai fe oedd penodiad cynta a mwyaf allweddol Gatland. O ysgol galed rygbi tri ar ddeg does dim nonsens yn perthyn i Edwards a dim esgusodion dim ond atebion.
“Mae Shaun yn gymaint o gymeriad,” medde clo’r Dreigiau Ian Gough. “Mae pawb mewn parchedig ofn. Mae ganddo gymaint o ynni – mae’n wallgof – mewn ffordd dda wrth gwrs!”
Ac fe ategwyd hynny gan ganolwr y Gleision Tom Shanklin fydd yn ennill ei hanner canfed cap heddi, “Dwi erioed wedi cael unrhywun yn sgrechian yn fy wyneb felna. Ond nid rhoi ofn na bychanu yw’r bwriad – helpu. Dyna’i steil hyfforddi a mae’n gret.”
Mae’r berthynas rhwng Gatland ac Edwards yn mynd yn ol i ddyddiau llwyddiannus y Wasps a doedd gan Edwards ddim amheuon cyn derbyn y cynnig i ail-gydio yn y bartneriaeth.
“Mae Warren yn dactegydd praff iawn ac mae ganddo benderfyniad tawel. Mae e’n rhywun sy’n gyfarwydd ag ennill a rwy am fod yng nghwmni ennillwyr.”
Ac ar ol ennill dwy mas o ddwy ym mhencampwriaeth y chwe gwlad mae Gatland ei hun y gobeithio mai’r un fydd agwedd chwaraewyr Cymru.
“Mae Shaun a Rob Howley a finnau wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol ac ar ol profi sut mae llwyddiant yn blasu ac yn sawru ni’n gobeithio bydd hynny’n dylanwadu ar chwaraewyr Cymru. Drwy ddweud wrthyn nhw’n gyson cystal chwaraewyr ydyn nhw a chodi’u hunan hyder gobeithio y caiff hynny effaith fawr.”
Dyna ddigwyddodd yn Twickenham pan oedd Cymru ymhell ar ei hol hi o ran y chwarae on nid o ran y sgor. Roedd yr hunan-gred a’r dycnwch meddwl sy mor bwysig i athroniaeth Gatland ac Edwards yno ac fe ddaeth adfywiad ail hanner ac elfen hunan-ddinistriol Lloegr a buddugoliaeth gynta Cymru yn HQ am ugain mlynedd i roi Warren Gatland ar ben ffordd. Ond doedd dim pwyso ar ei rwyfau wedi hynny – adeiladu’n syth ar y llwyddiant oedd y nod.
Felly yn lle gwobrwyo’r tim llwyddiannus gydag ail-gyfle dyma newid. Ac mae’r newid hwnnw a’r un wedi’r fuddugoliaeth dros yr Alban wedi creu ansicrwydd a chyffro o fewn y garfan. Does na ddim ymdeimlad cyffyrddus, mae pawb ar flaenau’u traed ac am roi o’u gorau – o’r newydd-ddyfodiaid i’r hen stejars fel Dwayne Peel gurodd record capiau Rob Howley pan ddaeth e oddiar y fainc yn erbyn yr Alban.
“Mae’r awyrgylch yn dda. Mae pawb yn mwynhau’u hunain. Mae’n heriol iawn ond all hynny ond bod yn dda i’r garfan. Mae’r gystadleuaeth yn cryfhau’r garfan ac mae ennill y gemau cynta wedi helpu’n aruthrol.”
Ond os yw’r chwaraewyr ar flaenau’u traed un peth mae Warren Gatland a Shaun Edwards wedi gwneud yw plannu’u traed yn sownd ar y ddaear. Tra bo’r cefnogwyr eisoes yn son am Goron Driphlyg a Champ Lawn mae carfan Cymru yn cael eu gorfodi i feddwl am y gem nesa – yn erbyn yr Eidal heddi, yn enwedig o gofio beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol agos.
“Dyn ni ddim am wneud ffyliaid o’n hunain drwy golli gartre o flaen ein cefnogwyr,” meddai Gatland. “Rwy wedi atgoffa’r chwaraewyr gymaint mae’n cyfri bob tro mae nhw’n gwisgo’r crys coch ag i beidio gadael neb lawr.”
Adyna neges Gatland yn ei grynswth. Peidiwch cymryd dim yn ganiataol. Mae’r chwaraewyr yn gwybod hynny bellach – rhaid cadw at y gwerthoedd syml, sylfaenol sy’n ganolog i ethos Gatland. Gwaith caled a gonestrwydd – anghofiwch egos fe geith ymdrech ac ymroddiad eu cydnabod. Un peth sy’n sicir – ar ol helyntion Ruddockgate a siom Cwpan y Byd sdim son bellach am “Bwer y Chwaraewyr” oherwydd yn sgubo dwry rygbi Cymru mae “Grym Gat”.
|