| Mae ambell i fachwr wedi gorfod ysgwyddo gwahanol gyfrifoldebau yn ei ddydd. Dyna ichi Robin McBryde, sydd erbyn hyn, yn rhinwedd ei swydd fel Ceidwad y Cledd, yn gofalu am Gleddyf yr Orsedd yng ngorymdeithiau a seremoniau’r Eisteddfod Genedlaethol – ac yn gwneud hynny gyda balchder.
Anôl yn 2003, wrth i Gymru deithio i Awstralia i gystadlu yng Nghwpan y Byd, fe ddechreuwyd ar draddodiad newydd o fewn y garfan, sef mynd a “llwy garu” gyda nhw, fel symbol ac arwydd o’u Cymreictod. Aelod ieuengaf y garfan sy’n gyfrifol am y llwy, ac fe gyflawnodd y bachwr Huw Bennett ei ddyletswyddau bryd hynny gyda’r un balchder â Robin o Fôn – er iddo gyfaddef ei fod yn eithriadol o nerfus pan ofynwyd iddo sefyll ar ei draed a siarad yn gyhoeddus am arwyddocad y “llwy garu ”!
Mae yna dros bedair blynedd wedi mynd heibio ers hynny, ac er fod Huw Bennett wedi bod yn aelod eithaf cyson o’r garfan genedlaethol, ar y cyrion y mae o wedi bod. O’r pymtheg cap
sydd ganddo, dim ond ar bum achlysur y mae o wedi dechrau gêm dros Gymru. Ond y tymor hwn, yn sgil perfformiadau cyson a llwyddiannus y Gweilch – llwyddiant sydd, mae’n amlwg, wedi creu argarff ar Warren Gatland – mae’r cyfle wedi dod i’r gwr o Went fachu ar ei gyfle, a hawlio’r crys coch rhif dau iddo’i hun.
Ond pan gamodd o i’r llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf, crys gwyn oedd ar ei gefn o! Er iddo gael ei eni yng Nglyn Ebwy, fe dreuliodd blynyddoedd ei lencyndod yn ardal Bryste. Cafodd ei addysgu yn ysgol Clevedon yng Ngwlad yr Haf (cyn ysgol Sid Vicious o’r Sex Pistols), ac yna, ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Gronfa Rygbi’r Ddraig, fe symudodd i ysgol fonedd Bryanston yn Dorset. Roedd o’n rhagori ar y meysydd rygbi ac fe gafodd ei ddoniau eu gwobrwyo gyda chap dros Loegr dan 18!
Fe gafodd o’i dywys yn ôl i’r gorlan Gymreig ar gyfer Cwpan Ieuenctid y Byd dan 19 yn Chile yn 2001. Colli yn erbyn Ffrainc yn y rownd gyn derfynol oedd hanes y Cymry, ac ar ddiwedd y bencampwriaeth, fe gafodd Gavin Henson – yr unig chwaraewr arall o’r garfan honno i chwarae yn Twickenham y penwythnos diweth af gyda llaw – ei ddewis fel “Chwaraewr Ifanc y
Flwyddyn” gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol. Yna, ar ôl chwarae rhan amlwg wrth gipio’r Gamp Lawn gyda’r tîm dan 21 yn 2003, fe ddaeth y cyfle i Huw Bennett geisio profi ei hun fel aelod llawn o’r garfan genedlaethol.
Steve Hansen, kiwi arall, oedd wrth y llyw pan enillodd Huw Bennett ei gap llawn gyntaf. Fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Iwerddon ar Heol Lansdowne, mewn gêm gyfeillgar oedd yn rhan o’r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd. Dyna oedd y patrwm hefyd yn y gystadleuaeth honno yn Awstralia, dod ymlaen fel eilydd yn lle Robin McBryde a Mefin Davies yn erbyn Canada a Tonga.
Erbyn iddo ddychwelyd i Gymru, roedd Huw Bennett wedi chwarae mwy o gemau dros ei wlad nag oedd dros ei ranbarth newydd – y Gweilch! Roedd o’n chwaraewr llawn addewid, ond am ryw reswm, tydi’r addewid hwnnw ddim wedi cael ei wireddu ar y llwyfan rhyngwladol eto. Bu’n gwylio o’r ystlys am gyfnodau maith wrth i Mefin Davies, Matthew Rees a Rhys Thomas hawlio’r crys o’i flaen o. Unwaith yn unig y mae o wedi dechrau gêm dros Gymru yn Stadiwm y Mileniwm, ac roedd hynny yn erbyn De Affrica, fis Tachwedd y llynedd, bron i bedair blynedd a hanner ers ennill ei gap gyntaf!
Ond mae pethau’n argoeli’n welli Huw Bennett y tymor hwn. Er taw dim ond cwta ugain munud gafodd o ar y maes yng Nghwpan y Byd y llynedd, mae o wedi bod yn chwarae’n gyson i’r Gweilch ers i’r gystadleuaeth honno ddod i ben. Roedd o’n amlwg iawn ym mherfformiad grymus y pac a sgubodd Caerloyw o’r neilltu ar Stadiwm Liberty yng Nghwpan Heineken, a hynny yn erbyn tîm oedd wedi ennill pob gêm yn y gystadleuaeth cyn hynny. Ac roedd blas y Magners yn felys iawn dros gyfnod y Nadolig, wrth i Bennett sgorio ei gais cyntaf y tymor hwn yn erbyn y Gleision o Gaerdydd.
Perfformiadau cyson o’r math yma sydd ei angen arno i sicrhau ei le yn nhîm Warren Gatland amweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Erbyn hyn, mae’r cyfrifoldeb am y “llwy garu” wedi cael ei drosglwyddo i ddwylo diogel Alun-Wyn Jones – trosglwyddo’r bêl i’r dwylo diogel yn y lein, ac ysgwyddo baich y bachwr sy’n mynd a bryd Huw Bennett bellach.
|