Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Rhys Williams sy’n cofio’r mlan ac weld pencampwriaeth yr ifanc nol yng Nghmru eleni
(Main) Rhys Williams sy’n cofio’r mlan ac weld pencampwriaeth yr ifanc nol yng Nghmru eleni (Thumb) Leigh Halfpenny
Cwpan y Byd - cyfle'r ser ifanc
9 February 2008, 6:00 pm
By Huw Llywelyn Davies
Ym 1999 cyrhaeddod tim dan 19 oed cymru rownd derfynol Cwpan y Byd. Rhys Williams sy’n cofio’r mlan ac weld pencampwriaeth yr ifanc nol yng Nghmru eleni.
Dewch, chi wybodusion y gem. Beth sy’n cysylltu’r chwarewyr canlynol? Rhys Williams a Jamie Robinson y Gleision, Ryan Powell, eu cyn fewnwr, a Ceri Sweeney, Adam Jones a Michael Owen y Dreigie. Odyn, maen nhw i gyd wedi chware dros Gymru, ond mae yna gwlwm tynnach fyth – roedden nhw i gyd yn rhan o dim dan 19 oed Cymru gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan y Byd yma yng Nghymru ym 1999.

Eleni, mae Cwpan y Byd y darpar ser yn dychwe lyd yma ym Mis Mai, chwaraewyr o dan ugain oed y tro hwn, ac mae Rhys Williams yn gobeithio y gall y to ifanc presennol fwynhau cymaint, ac elwa cymaint o’r profiad ag y gwnaethon nhw wyth tymor yn ol.

“Roedd e’n amser sbesial iawn,” dywedodd Rhys. "Y tro cynta i ni fel criw gael unrhyw sylw mewn gwirionedd, a derbyn clod am ein perfformiad. Roedd gweld y diddordeb a’r gefnogaeth yn tyfu wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen yn rhoi gwefr arbennig, ac fe synnodd e lawer o bobl rwy’n siwr.

"Erbyn y rownd gyn derfynol yn erbyn De Affrica ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-Bont roedd deng mil o bobl wedi tyrru i’n gwylio, a’r trefnwyr yn amlwg heb baratoi am hynny. Dim ond pum stiward oedd ar ddyletswydd, a bu’n rhaid chwilio am lawer rhagor ar frys i gadw trefn!

Erbyn y rownd derfynol ar Barc y Strade yn erbyn Seland Newydd, roedden nhw’n fwy parod, a diolch am hynny, gan fod y lle dan ei sang, a’r awyrgylch yn rhyfeddol. Er taw colli fu’n hanes ni, roedd y profiad yn fythgofiadwy. Er fy mod i wedi ennill 44 o gapie dros Gymru, gan gynnwys ennill y Gamp Lawn dri thymor yn ôl, heb os y diwrnod hwnnw oedd un o uchafbwyntie mawr fy ngyrfa i.

Rwy’n gwybod taw dan 19 oed oedd hi, ond fe alla i drysori am byth y ffaith fy mod i wedi chware yn rownd derfynol Cwpan y Byd – ac yn erbyn tim gore ’r byd, tim oedd yn cynnwys rhai ddatblygodd wedyn i fod yn rhai o ser amlyca ’r Cryse Duon – Ritchie McCaw, Jerry Collins, Ali Williams ac Aaron Mauger.”

“Ar ôl blasu hynny,” medde Rhys. "Roedden ni i gyd yn ysu am brofi mwy, ac wedi magu hunan hyder.”

Ar ôl diwedd y gystadleuaeth, fe’i dewiswyd e a Jamie Robinson i chware rhyw hanner dwsin o gemau dros Gaerdydd cyn diwedd y tymor, ac yn syfrdanol, flwyddyn yn ddiweddarach, fe oedd cefnwr tim cynta Cymru yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, ac fe gafodd e gem gofiadwy i lawnsio’i yrfa ryngwladol.

Dyna pham y mae e’n dymuno cymaint gweld y Cymry ifanc yr Haf yma yn achub ar y cyfle i ddangos eu donie ar lwyfan y byd. Ac mae Rhys o’r farn ei bod hi’n haws gwneud hy n ny ar yr oed ran yma nag yw hi yn nes ymlaen mewn gyrfa.

“Heb os, mae mwy o gyfle i ddefnyddio’r sgilie greddfol pan y’ch chi’n ifanc. Wrth symud mlaen at rygbi rhanbarthol a rygbi rhyngwladol, mae llawer mwy o bwyslais yn cael ei roi ar
amddiffyn yn un peth, a chymaint mwy o ddadansoddi ar fideo fel ei bod hi’n mynd yn fwy ac yn fwy anodd i greu a mentro.

"Hefyd, dyw’r corff ddim wedi datblygu i’r un gradde, ac felly dyw maint a phwyse ddim yn cyfri cymaint. Rwy’n cofio er enghraifft ym 1999 fod gan Loegr dim enfawr yn ein herbyn ni yn Abert awe, ond fe redon ni o bobman, defnyddio’n sgilie, a’u tynnu nhw o gwmpas y cae, gan ennill yn hollol gyffyrddus yn y diwedd o ryw 49 o bwyntie yn erbyn 10.”

Gwerth nodi i Gymru guro Lloeger, Ariannin a De Affrica ar eu ffordd at y ffeinal y flwyddyn honno – tair o’r pedair gwlad gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd. Does dim eisie atgoffa neb o beth ddigwyddodd i Gymru yn y gystadleuaeth honno! Pam felly nad yw’r llwyddiant ar yr oedrannau is yn cael ei drosglwyddo at y llwyfan mawr? Bu’n gwestiwn cyson yma yng Nghymru dros y blynyddoedd. Falle bod rhywfaint o’r ateb yn sylwadau Rhys Williams.

Beth felly am y ffaith fod yna Gwpan arall yn dychwelyd yma yn hwyrach eleni?

“Mae’n beth gwych i Gymru,” oedd y sylw. “Un waith eto, bydd llygaid y byd arnon ni am ychydig wythnose, a bydd yn gyfle arbennig hefyd i’r cefnogwyr i fwynhau rygbi mwy agored falle na’r arfer, ac i gael cip cynnar ar rai o ser y dyfodol yn y gwahanol wledydd.”

Bydd y rheini i gyd yn naturiol yn breuddwydio am gael camu mlaen at y lefel ucha un, fel y gwnaeth criw dethol 1999. Bydd yna gyfle felly i bawb geisio bod yn broffwyd a dyfalu pwy o’r ser ifanc hyn allai hawlio’u lle ym mhrif dimoedd eu gwledydd erbyn Cwpan y Byd Seland Newydd yn 2011.

Mae rhai o garfan Cymru eisioes wedi dangos eu haddewid drwy gynrychioli eu timoedd rhanbarthol, ac yn ddiddorol, o ystyried sylwadau Rhys am y cyfle gwell sydd ar yr oedran hwn i ddangos y sgilie, ymhlith yr olwyr y mae’r rhan fwyaf o’r enwe cyfarwydd. Daniel Evans, cefnwr y Sgarlets, yr asgellwr Leigh Halfpenny o’r Gleision; canolwyr cyffrous – Gareth Owen y Gweilch a Jonathan Davies y Sgarlets, a’r haneri Daniel Biggar a Gareth Williams o’r Gweilch i enwi ond rhai.

Ym mis Mai, fe ddaw eu cyfle mawr, a chyngor y gwr wnaeth elwa cymaint o 1999 yw iddynt fynd mas yn fwy na dim i fwynhau’r holl brofiad a dangos eu donie naturiol i’r byd. Mae’n gyfle unigryw i greu atgofion fydd yn aros gyda nhw am amser hir i ddod. A chi’n gwybod beth? Ma gwr ifanc o’r enw Rhys Williams ymhlith yr olwyr yng ngharfan bresennol Cymru dan 20 oed. Sgwn i fyddwn ni’n cloriannu ei atgofion e o Gwpan y Byd 2008 ymhen bly nyddoedd i ddod!

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot