Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Yn glocwedd or chwith: Luke Charteris
(Main) Yn glocwedd or chwith: Luke Charteris (Thumb) Yn glocwedd or chwith: Tom James
Cnwd newydd i'r cwpan nesa?
24 November 2007, 6:00 pm
By WRU
Ar ol siom Ffrainc mae’n bryd edrych mlaen at Gwpan y Byd nesa ac mae cyfl e gan nifer o ieuenctid i greu argra ff ar yr hyffo rd dwr newydd Warren Gatland cyn iddo gymryd yr awenau.
Cyfnod newydd, carfan newydd, cyfle newydd. Roedd Cwpan y Byd 2007 yn fwy o drai nag o lanw i Gymru, ond gyda rygbi bellach yn troi mewn cylchoedd o bedair blynedd mae na eisoes edrych mlaen at Gwpan y Byd 2011, ac er nad fe fydd wrth y llyw efallai bod Nigel Davies wedi rhoi rhagflas i ni o’r hyn sydd i ddod yng nghyfnod Warren Gatland.

Mae nifer o’r hen do wedi mynd. Dim ond pedwar o garfan wreiddiol Nigel Davies o dri deg un sydd dros 30 oed (gyda Stephen Jones i ymuno a’r grwp dethol hwnnw fis nesa), ac ar gyfa rtaledd chydig dros 26 yw oed y garfan.

Yr ifanca yw asgellwr ugain oed y Gleision Tom James sydd wedi gweld ei obeithion rhyngwladol yn codi a disgyn am yn ail dros y misoedd dwetha.Ar ol ei dymor llawn cyntaf fe ddewiswyd James i fynd ar daith Cymru i Awstralia yn yr haf, ond chwaraeodd e ddim yn un o’r ddau brawf. Fe ddaeth ei unig gap hyd yn hyn yn y grasfa yn Twickenham fis Awst, ond a oedd hynny’n fendith neu felltith? Chafodd e mo’i gynnwys yng ngharfan Cwpan y Byd ond ar ol sgori pum cais mewn tair gem g y n grhair leni mae e wedi dal llygad y dewiswyr eto.

Mae’r cyn athletwr a rhedwr traws gwlad o Ferthyr wedi gwneud y trosglwyddiad i’r byd rygbi’n llwyddiannus ac mae’i allu i ddarllen y gem yn tyfu drwy’r amser. Mae ganddo holl rinweddau asgellwr o fri yn y gem fodern – yn chwe troedfedd dwy modfedd a dros bymtheg ston ma ganddo gyflymder, cryfder a’r gallu i orffen symudiadau – gallu arobrin all brofi’n werthfawr tu hwnt i Gymru yn y blynyddoedd i ddod.

Os yw dyrchafiad Tom James wedi bod yn sydyn dyw e’n ddim o’i gymharu a’r seren wib o gefnwr wrth ei ochr. Ar ol symud o Bontypridd i dim rhannol broffesiynol Llanelli, dim ond deg mis yn ol gwisgodd Morgan Stoddart grys coch y Sgarlets am y tro cynta.Yn y gwynt a’r glaw yn Ravenhill fe ddangosodd Stoddart ei botensial drwy sgoriun o bum cais y tim a mae e wedi para i greu argraff ers hynny. Mae ei allu i wrthymosod o unrhyw safle yn gweddu i’r dim i steil chwarae’r Sgarlets a Chymru.

“Mae e’n chwaraewr ifanc, talentog gyda lot o rinweddau,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Sgarlets Phil Davies. “Mae e’n rhedwr cryf sy’n rhoi bygythiad gwirioneddol i unrhyw dim. Dim ond iddo gadw’i draed ar y ddaear fe fydd dewis cynta Cymru yn y dyfodol.”

Tra bo Stoddart yn edrych i wneud yn fawr o’i gyfle cynta ceisio manteiso ar ail gyfle mae dau o flaenwyr ifanc y Dregiau sydd am brofi nad clwb dethol i hynafgwyr yw pum blaen y sgrym.

Fel Tom James mae’n bosib bod Rhys Thomas yn poeni mai Twickenham oedd beddrod ei yrfa rhyngwladol, ond fel Tom James mae prop pen tyn y Dreigiau wedi dal sylw am sgori ceisiau’n ddiweddar. E fallai nad oedd ei ddau gais yn erbyn Newcastle o’r pellter mwya ond roedden nhw’n tanlinellu ei awydd i gael y bel yn eu ddwylo, a gyda’i allu i sgrymio mae’n cynrychioli’r prop cyflawn, ifanc sydd mor brin yn y byd rygbi ar hyn o bryd. Er bod cystadleuaeth frwd am safle’r pen tyn oddiwrth Chris Horsman ac Adam Jones mae Rhys Thomas yn
un i gadw llygad arno ar gyfer y dyfodol.

Rhyfedd meddwl bod rhywun yn cael ail-gynnig yn bedair ar hugain oed, ond dyna yw hanes Luke Charteris. Mae na ddwy flynedd lawn ers iddo ennill y dwetha o’i chwe chap ac yn y cyfamser mae e wedi gweld Ian Evans ac Alun Wyn Jones (dau sy’n i fancach na fe) yn neidio uwch ei ben fel petai yn y ras am yr ail rheng. Ond yn y cyfnod hwnnw mae Charteris wedi datblygu. Yn chwe troedfedd a naw doedd byth amheuaeth am ei allu yn y lein – ac o gofio trafferthion Cymru yn y leiniau dros y blynyddoedd dwetha mae Charteris yn cynnig ateb parod – ond mae e hefyd wedi llanw mas a mae ei bresnoldeb o amgylch y cae yn amlycach. Ychwanegwch y profiad a’r cyfrifoldeb mae e wedi meithrin fel capten y Dreigiau tra bo pobl fel Colin Charvis, Michael Owen a Kevin Morgan ar ddyletswydd gyda Chymru yng Nghwpan y Byd a dyna grynhoi pam bod Luke Charteris nol ym meddyliau tim hyfforddi Cymru.

Does wybod beth fydd ym meddwl yr hyfforddwr newydd ond falle bod y tim dros dro presennol wedi plannu hedyn all ddatblygu’n gnwd newydd llewyrchus ymhen pedair blynedd.

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot