Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Undeb Rygbi Cymru
Undeb Rygbi Cymru
WRU
Datganiad i'r Wasg URC
3 May 2007, 4:15 pm
By WRU
Dros y penwythnos hwn, daw Undeb Rygbi Cymru i fod y corff llywodraethol cyntaf i gymryd rhan mewn cynllun newydd i gyflwyno cyrsiau hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhaglen hyfforddi safonol newydd ledled y DG yw’r UKCC (Tystysgrif Hyfforddiant y DG) ac mae’n cymeradwyo cymwysterau addysgu hyfforddwyr chwaraeon-benodol. Y nod yw sicrhau bod chwaraeon yn cyflwyno’r hyfforddiant athletwr-ganolog gorau sydd ar gael – ar gyfer y goreuon ac wrth fwynhau chwaraeon yn weithgaredd hamdden – a’r penwythnos hwn (Sul 6ed Mai), bydd Clwb Rygbi Bro Ffestiniog yn gartref i’r cwrs cyntaf erioed i gael ei gynnal yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd llu o ddarpar hyfforddwyr yn mynychu’r clwb yng Ngwynedd ar gyfer gweithdy deuddydd yn llawn sesiynau rhyngweithiol ac ymarferol ynghylch sut orau i gyflwyno rhaglen hyfforddi rygbi gyda’r amcan o sicrhau safon Lefel Un UKCC. Bydd y sesiynau, o dan arweiniad Swyddogion Datblygu Undeb Rygbi Cymru, yn cynnwys arddangosfeydd ar sgiliau trin pêl, gwybodaeth am faterion amddiffyn plant a chanllawiau ar sut orau i gyflwyno sesiwn hyfforddi a gynlluniwyd ymlaen llaw.

Mae Undeb Rygbi Cymru’n falch iawn o fod y corff llywodraethol cyntaf i dorri tir newydd ac i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn ei waith yn y gymuned. Meddai rheolydd addysg hyfforddwyr cymunedol Undeb Rygbi Cymru, John Schropfer: "Mae gan hyfforddwyr y gallu i ddod o hyd i a mowldio talent ifanc yn sêr y dyfodol ac i gyflwyno gwerthoedd craidd gwaith caled, atebolrwydd, cred ac - yn bwysicaf oll -  mwynhad i’r gêm.

“Mae iaith yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â’i gilydd a gall siarad y Gymraeg mewn chwaraeon fod yn fantais fawr ar ac oddi ar y cae.  “Bydd cyflwyno’r UKCC lefel un trwy gyfrwng y Gymraeg o gymorth i ddatblygu hyder hyfforddwyr y dyfodol i basio sgiliau rygbi ymlaen yn Gymraeg.”

Datblygodd Cymdeithas Chwaraeon Cymru – y corff ymbarél ar gyfer cyrff rheoli chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru – Raglen Gefnogi Datblygiad yr Iaith Gymraeg mewn partneriaeth â Chyngor Chwaraeon Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Nod y cynllun yw creu mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn hyfforddiant, hyfforddi a derbyn hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n canolbwyntio ar ddod o hyd i hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith a chyfieithu’r adnoddau allweddol presennol i’r Gymraeg.

Felly, boed yn cymryd rhan mewn pêl droed neu ganwio, tenis bwrdd neu rygbi, mae pobl ym mhob cwr o Gymru’n dechrau elwa o’r manteision o gael perffeithio eu sgiliau chwaraeon gyda hyfforddwyr Cymraeg eu hiaith mewn awyrgylch Gymraeg. 

Meddai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Mae ehangu’r defnydd o’r Gymraeg y tu hwnt i gatiau’r ysgol yn hollbwysig ac mae’n rhaid inni wneud yn siwr fod pobl yn gwybod am y cyfleoedd os yw hynny’n mynd i ddigwydd. Mae defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol trwy weithgareddau chwaraeon yn gyfle i’r Gymraeg dyfu’n organig ac i fod yn rhan naturiol o fywyd".

Mae’r dyfarniad yn benllanw gwaith ar y cyd gan Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg Cymdeithas Chwaraeon Cymru, Ceri Thomas, a Wynn Isaac, Swyddog Datblygu Rygbi URC yng Ngwynedd. Mae Ceri Thomas yn credu y gallai cyflwyno’r cwrs fod yn garreg filltir allweddol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru a’r iaith: “Mae’r achlysur hwn yn creu hanes ac yn codi proffil y ddarpariaeth hyfforddi cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.

“Hwn fydd y cyntaf o nifer o gyrsiau i gael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.  Bydd dyfarniad TAG Undeb Rygbi Cymru ar gael eto'r tymor nesaf i helpu gyda chynyddu’r cyfleoedd i hyfforddwyr rygbi dderbyn hyfforddiant ac - yn bwysicach fyth - darparu cyfleoedd cymryd rhan ar gyfer pobl yn yr iaith o’u dewis hwy.”

Ewch i www.wru.co.uk/coaching i gael mwy o wybodaeth am gyrsiau hyfforddiant URC.

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot