Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Ffranc v Cymru - Alix Popham
Ffranc v Cymru - Alix Popham
Huw Evans
"Dell Boy" - Y dacl a'r gwallt melyn
26 August 2007, 9:00 am
By WRU
Gwallt hir melyn; taclo ffrwydrol; sgorwr cais cynta Cymru yn y Bencampwriaeth eleni. “Dell Boy” y dyfodol Port read o Alix Popham.
Nid y gwallt hir, melyn yw’r unig beth sy wedi denu sylw at Alix Popham dros y misoedd diwetha. Gofynnwch I Raphael Ibanez! Fe gafodd capten Ffrainc ei dorri yn ei hanner bron gan dacl gwbwl ddinistriol gan rif chwech Cymru yn y Stade de France dair wythnos yn ôl.

Roedd yr hanner gwên ar wyneb Ibanez wrth iddo godi yn adrodd cyfrole. Edrych i fyw llygaid Popham wrth gydnabod – “oedd, roedd hi’n glamp o dacl, ond o leia fe lwyddes i ddal at y bel”.

Ac roedd hynny’n dipyn o gamp, o ystyried nerth y dacl. Mae ymroddiad o’r fath wedi dod yn nodwedd o chware Popham dros y tymhore diwetha – y math o gyfraniad sy’n gallu codi ysbryd tîm mewn eiliad, ac arf sy wedi dod ag e yn aelod cyson bellach o garfan Cymru am y tro cynta.

Ar y cyrion oedd e pan ofynodd e i Steve Hansen ddau dymor yn ôl – “Beth sy ishe i fi wneud I selio lle yn y tîm cenedlaethol?”

“Cer mas, a chael gem enfawr ddydd Sadwrn” oedd yr ateb. Fe wrandawodd. Dwy dacl ffrwydrol yn ysbrydoliaeth i Sgarlets Llanelli yn eu buddugoliaeth dros Gaerfaddon yn rownd gyn derfynol Cwpan Powergen. Yr wythwr yn seren y gem, a’r prynhawn yn allweddol i ddatblygiad ei yrfa.

Gyrfa oedd hi a ddechreuodd yn gynnar iawn i’r crwt ifanc o Bentrepoeth ger Casnewydd. Cynrychioli Caerllion yn bedair oed, symud at HSOB Casnewydd yn chwech, a datblygu wedyn pan aeth i Ysgol Gyfun Basaleg o dan hyfforddiant y cyn asgellwr Marc Batten a’r cyn fewnwr Nicky Lloyd.

Hen ysgol Stuart Barnes a Jonathan Callard – dau a benderfynodd chware’i rygbi rhyngwladol dros Loeger! Popham felly oedd y cynta o’r ysgol i ennill cap dros Gymru; yn ddiddorol, y nesa oedd Ryan Jones. Hen fechgyn Basaleg felly yw’r ddau sy nawr yn brwydro am grys yr wythwr yn nhîm Gareth Jenkins.

Ond, chwaraeon nhw erioed gyda’i gilydd dros yr ysgol; chydiodd Ryan ddim yn y gem nes ei fod yn 17 oed; pêl droed oedd ei ddileit yn ei arddegau, a hefyd fe symudodd Alix, sy’ ddwy flynedd yn hyn i Goleg Cross Keys ar gyfer y chweched dosbarth.

Blodeuodd ei yrfa. Capie dros ysgolion Cymru; cynrychioli colegau Prydain; rhan o dîm Cymru dan 21 oed enillodd y Gamp Lawn pan oedd Stephen Jones yn gapten; capten ei hunan y flwyddyn ganlynol; yr unig siom oedd methu ennill cap dan 16 oed – siom fwya’i fywyd medde fe, tipyn o ddweud i rywun a gollodd y Gamp Lawn gyda Chymru ddwy flynedd yn ôl oherwydd anaf!

Roedd y dyfodol yn ddisglair; roedd yn chware dros Gasnewydd yn 18 oed, ond yna cyrhaeddodd y dylanwadol Garry Teichman o Dde Affrica i arwen Casnewydd o safle’r wythwr.Yn y cysgodion y bu Popham felly am gyfnod hir, a hynny ar adeg bwysig yn ei ddatblygiad. Penderfynodd felly godi ei bac a’i throi hi am Ogledd Lloegr i ymuno a thîm Phil Davies yn Leeds er mwyn sicrhau gemau cyson yn y tîm cynta’.

Bu’n brofiad gwerthfawr. Nid Leeds oedd y cryfa o dimoedd Lloegr o bell ffordd, felly dysgodd i frwydro am bob dim ar y cae, dysgu ymroi yn llwyr ym mhob agwedd o’r gem.

Cafodd dri thymor buddiol iawn, ond yna, pan ddaeth y cyfle i ddychwelyd i Gymru i ymuno â’r Sgarlets, roedd yn gynnig rhy dda i’w wrthod, yn enwedig ag ynte a’i wraig Joanne wedi dechre magu teulu, Joanne wedi dysgu Cymraeg yn ysgol Gwynllyw a’r ddau yn awyddus i roi addysg Gymraeg i’r un fach, Holly May, hefyd. Bellach mae’r freuddwyd honno wedi ei gwireddu, a Joanne hefyd wedi disgleirio yn un o’r “Gwragedd Rygbi” yn ddiweddar ar S4C.

Ac roedd y symudiad yn un perffaith o safbwynt gyrfa hefyd. Gareth Jenkins yn hyfforddwr ar y Strade; nol yng nghanol y sylw yng Nghymru, yn gyson ar y teledu, a’r gem honno’n erbyn Caerfaddon yn drobwynt. Bellach mae’n teimlo’i fod e’n chware rygbi gore’i yrfa, ac yn ddigon cyffyrddus yn gwisgo chwech dros Gymru wrth ochor Ryan Jones, ei hen bartner ym Maesaleg.

Wrth edrych tua’r dyfodol, hoffai gael tymor neu ddau yn chwa re yn Ffrainc cyn diwedd ei yrfa i brofi ffordd wahanol o fyw, lle bydd Holly May yn gallu dysgu Ffrangeg fel trydedd iaith! Yna sefydlu asiantaeth falle i helpu chwaraewyr ifanc gyda’u cytundebau. Mae e hefyd a llygad at fusnes, ac wedi sefydlu cwmni i gael pobl ardal Casnewydd i logi eu tai am ffortiwn fach i Americanwyr cyfoethog pan ddaw’r Cwpan Ryder I Gasnewydd yn 2010.

“Dell Boy” yw enw’i gyd chwaraewyr ar foi del y gwallt melyn! Ond cyn hynny, mae digon ar ôl i’w gyflawni ar y cae, yn dechre heddi gyda’r frwydr yn erbyn y Saeson. Curo Lloegr oedd y sbardun medde fe i Gymru i fynd ymlaen i gipio’r Gamp Lawn ddwy flynedd yn ôl. Teimla y gallai ail adrodd y fuddugoliaeth honno fod yn sbardun eto eleni i lwyddo yng Nghwpan y Byd.

A gallwch chi fentro y bydd Sais neu ddau yn rhannu profiad Raphael Ibanez yma heddi, – yn gwingo yng ngrym y dacl, wrth i’r crwt o Bentrepoeth ymroi yn llwyr unwaith eto i’r ornest.

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot