Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Ariannin v Cymru 2004 - Dwayne Peel
Ariannin v Cymru 2004 - Dwayne Peel
Huw Evans
Breuddwydd rhif 9
18 August 2007, 9:00 am
By WRU
Ar ol gwireddu breuddwyd drwy ennill 50 cap i Gymru mae Dwayne Peel yn gobeithio gweld breuddwyd arall yn dod yn wir drwy serennu yng Nghwpan y Byd.
Un o enwau mawr y byd pop John Lennon recordiodd y sengl “Number 9 Dream ” nol yn y saithdegau, ond eleni fe fyddai wedi bod yn deitl addas ar gyfer mewnwr Cymru, Dwayne Peel. Ar y degfed o Chwefror Dwayne oedd y chwaraewr ifanca e rioed i ennill hanner cant o gapiau dros Gymru.

“Roedd e’n deimlad arbennig a r wain y tim mas yn Murrayfield. Trueni am y gem – roedd hi’n drychinebnus ond eto’i gyd roedd e’n rhywbeth na’i byth anghofio. Ro’n i wastad wedi breuddwydio am chwarae i Gymru ond byth yn meddwl bydden i’n gwneud e dros bum deg o weithiau. Mae pethau wedi digwydd mor gloi dim ond 26 bydda i pan ddaw Cwpan y Byd. Fi wedi bod yn ffodus ofnadwy lan i nawr ond mae’n bwysig i fi gadw i fynd a gwella drwy’r amser.”

A dyna’r agwedd sy’n dangos nad breuddwydiwr mo Dwayne Peel ond rhywun sydd wedi gweithio’n galed i godi i’r brig a sy’n awchu i gystadlu yn erbyn y goreuon yng nghwpan y byd fis nesa.

“Mae e reit lan na mewn termau profiadau rygbi. Mae’n gyfle i bawb ddangos eu talent a fi’n edrych mlaen at y sialens i ddangos fy nhalent ar y lefel ucha un. Mae’n gyffrous iawn i fi’n bersonol a fi ishe mynd mas i brofi cwpwl o bwyntiau.”

Yng nghwpan y byd 2003 eilydd oedd Dwayne i Gareth Cooper, a Mike Phillips oedd mewnwr Cymru ar y daith haffelly mae mewnwr y Sgarlets yn gwybod bod ganddo frwydr ar ei ddwylo.

“Mae cystadleuaeth frwd. Mae Coops yn chwa r a ewr arbennig o dda a fe oedd rhif un yng nghwpan y byd dwetha, a Mike wisgodd y crys yn Awstralia so mae e lan i fi i gael e nol. Mae hwnna mas o ’nwylo i I raddau. Fi just wedi ymarfer mor galed a fi’n gallu a gwneud fy ngorau pan ga’i gyfle. Ond mae’r paratoi cyn dechrau’r tymor wedi bod yn arbennig. Dyma’r tro cynta i fi gael ‘pre-season’ ers cwpan y byd dwetha mewn gwirionedd.

“Dwi wedi bod fflat out da teithiau, y llewod yn 2005 a ges i lawdriniaeth tymor dwetha. Mae’n gwneud real gwahaniaeth cael deg wythnos o’i gymharu a thair – ti’n gallu dychmygu faint o waith ffitrwydd ni wedi gallu gwneud. Fi wedi mwynhau a fi’n edrych mlaen yn fawr iawn.”

Ac er mwyn tanlinellu’r pwynt yr hyn ma Dwayne yn edrych ymlaen ato fwya yw dod wyneb yn wyneb a ’r chwa r a ewr sydd wedi ennill y niferfwya o gapiau yn hanes y gem.

“Soi byth wedi chwa re’n erbyn George Gregan a bydden i’n dwli cael y cyfle. Dim ond unwaith fi wedi chware’n erbyn Awstralia a Matt Giteau oedd y mewnwr bryd hynny so bydde fe’n arbennig ‘sen i’n cael cyfle i chwarae yn erbyn Gregan.”

Ac mae’n siwr bod nifer o chwaraewyr yn dweud yr un peth am gael cyfle i chwarae’n erbyn Dwayne Peel – bydd erbyn hynny wedi ennill mwy o gapiau na G areth Edwards a Robert Jones.

“ Wel mae’n fraint os yw pobl yn meddwl fel ‘na, fi’n bles ofnadwy. Ond mae targedau personol da fi – fi’n rili moy n cwpan y byd da. Fi wedi ymarfer yn galed a bydde’n i’n siomedig i adael i ’r holl ymarfer na i fynd.”

A hebl aw am dargedau personol beth am obeithion Cymru yng nghwpan y byd 2007?

“Mae grwp anodd da ni ac mae Awstralia’n mynd i fod yn gem en fawr. Falle bod Scott Johnson yn gwybod lot amdano ni ond mae’n steil ni o chwarae wedi newid ers iddo fe fynd. Mae hyfforddwyr newydd da ni a ffordd wahanol o edrych ar y gem a mae’n rhaid i chi gadw i symud mlaen.

“Dyna beth sy’n bwysig nid bod yn sownd mewn un patrwm chwarae. Mae’r gem wastad yn newid drwy’r amser a mae’n bwysig bo ni’n cadw reit lan da’r newidiadau hynny. Mae pawb falle’n disgwyl i ni a Awstralia fynd drwy’r grwp ond mae’n beryg anweybyddu Canada, Fiji a Japan.

“Awstralia a dyna paham bod cael gemau anodd yn erbyn timau o Safon ym mis Awst yn bwysig i’n rhoi ni ar y lefel iawn reit o’r dechrau. Mae’n hollbwysig bod gymaint o ni wedi bod yng nghwpan y byd o’r blaen a gwybod pa mor ddwys yw’r gystadleuaeth. Ethon ni i Awstralia yn garfan ifanc ofnadwy – fi’n credu bod dros hanner ni dan 24. Ni’n benderfynol i neud yn dda tro ma. Ni’n siomedig a shwd aeth y chwe gwlad tymor dwetha ond mae hon yn ddalen newydd i ni a mae pawb am roi o’u gorau.

”Mae lot o’r bois wedi cael chydig lwyddiant yng nghwpan y bydd wetha a Champ Lawn 2005 a ni wedi bod yn siomedig ers hynny. Mae’n bwysig nawr i ni greu bach o hanes i ni’n hunain.”

Os bydd pawb yn rhannu agwedd ac ymroddiad Dwayne Peel pwy a wyr falle bydd na wireddu breuddwyd rhif naw arall.

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot