Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Dwayne Peel yw mewnwr gorau'r byd ar hyn o bryd
Dwayne Peel yw mewnwr gorau'r byd ar hyn o bryd, Brynmor Williams yn chwarae yn erbyn y crysau Duon nol ym 1978
Parch, a her, anrhydedd
24 November 2006, 5:00 pm
By Brynmor Williams
Yr anrhydedd mawr o chwarae yn erbyn y Crysau Duon - y goreuon yn y byd dros y ganrif ddiwethaf gan Brymor Williams.
Pan oeddwn yn fachgen ifanc ac yn fy nychymyg yn sgorio’r cais buddugol munud olaf i Gymru nid oeddwn yn siwr pa dîm y byddai’n well gennyf chwarae yn ei erbyn. Dim ond dau ddewis oedd wrth gwrs, Lloegr neu Seland Newydd. Roedd Lloegr yn deillio o’r awydd greddfol sy’n llosgi y tu mewn i bob Cymro ifanc i chwarae ei ran yn curo’r hen elyn. Er hynny y gêm bwysicaf yn fy mreuddwyd bob amser oedd yr un yn erbyn y Crysau Duon.

Roedd eu henw da, y dirgelwch, y parch a chyfaredd yr Haka bob amser yn cipio dychymyg pawb oedd yn gwirioni ar y gêm ac yn parhau i wneud hynny hyd heddiw.

Rwy’n gwybod nad oes dim wedi newid ac mai profi eich hun yn erbyn y Crysau Duon yw’r prawf mwyaf o hyd ac, o ganlyniad, yr atyniad mwyaf i bob chwaraewr sydd o ddifrif am wella ei botensial rygbi a’i statws yng ngêm y byd. Roedd yn fraint i mi gael gwireddu’r freuddwyd honno ac roedd cael y cyfle I chwarae ar yr un cae â hwy yn bennod bwysig yn fy mywyd fel chwaraewr.

Heb os, nhw yw’r tîm gorau yn y byd ac eisoes mae’n ymddangos na fydd neb arall yn y ras yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf. Er y gallai hynny fod yn bryder i’r trefnwyr, gall llawer o bethau ddigwydd yn ystod y deuddeg mis nesaf i adfer rhywfaint o’r cydbwysedd sydd ei angen yn y gamp.

Efallai y bydd Graham Henry hyd yn oed am fod yn awyddus i ddod yn agos at golli rhywfaint o gemau yn 2007 fel y gall gael gwared ar unrhyw orfoddhad neu or-hyder yn ei sgwad gwerthfawr. Ar hyn o bryd dyna yw eu hunig rwystr posibl ac mae ganddynt ddigon o dystiolaeth i ddangos pa mor niweidiol y gall hynny fod. Maent fwy na thebyg wedi colli eu ffordd mewn tair pencampwriaeth Cwpan y Byd oherwydd gor-falchder.

Cefais y pleser o gael chwarae yn erbyn Seland Newydd ar chwe achlysur ond dim ond unwaith yr oeddwn yn y tîm buddugol. Roeddem yn agos atynt yn y rhan fwyaf o’r achlysuron eraill ond nid oedd y Kiwis byth yn fodlon ildio ac mewn dwy gêm yn eu herbyn gwnaethant ennill yn y funud olaf neu yn ystod amser anafiadau. Maent yn ymladd hyd y diwedd un ac nid ydynt yn barod i gyfaddef eu bod wedi’u trechu nac yn dathlu buddugoliaeth tan y chwib olaf - roeddynt yn hynod o ‘broffesiynol’ yn bell cyn 1995!

Er nad wyf am ymddangos yn amharchus I Graham Henry mae’n rhaid bod ganddo’r swydd hyfforddi hawsaf yn y byd. Roedd gan John Dawes swydd debyg yng Nghymru yn ystod y saithdegau.

Mae cymaint o dalent eithriadol naturiol ar gael iddo fel nad oes her o safbwynt ennill a cholli. Rwy’n amau mai ei brif broblemau yw rheoli
disgwyliadau ei Genedl a rheoli egni ac awydd ei chwaraewyr a sicrhau eu bod yn perfformio i’w lefel uchaf ar bob achlysur pwysig. Dyma’r prif reswm pam ei fod yn parhau i arbrofi gyda’i chwaraewyr. Mae Graham Henry yn graff ac yn ddeallus ac mae’n pwyso a mesur cyfraniad posibl pob chwaraewr I gyflawni’r nod eithaf – ennill Cwpan y Byd i Seland Newydd unwaith eto ar ôl ugain mlynedd.

Cefais y fraint o chwarae mewn tri phrawf i’r Llewod yn ystod taith Seland Newydd ym 1977 a’r tair gêm hynny oedd y mwyaf cystadleuol y chwaraeais erioed ynddynt gyda’r naill dîm a’r llall yn gwrthod ildio modfedd. Nid oedd rygbi mor ysblennydd yn y dyddiau hynny ond roedd maint yr anrhydedd i chwarae yn erbyn Seland Newydd dros eich gwlad neu’r Llewod yr un mor wych ag y mae heddiw. Rwy’n eiddigeddus o chwaraewyr heddiw - mae ganddynt gyfle i greu hanes a phrofi eu gallu i’r byd rygbi. Mewn gêm fel yr un heddiw y caiff breuddwydion eu gwireddu ac rwy’n gobeithio y bydd ein chwaraewyr yn ymuno â’r grwp bychan hwnnw sydd wedi llwyddo yn erbyn Seland Newydd.

Cefais y pleser o chwarae yn erbyn un o’r mewnwyr gorau erioed yng nghyfres Prawf 77. Roedd Sid Going yn eicon ac yn ail i Gareth Edwards fel chwaraewr gorau’r byd ar y pryd. Dysgais gymaint fel mewnwr ac roeddwn bob amser yn eiddigeddus o ffordd Seland
Newydd o chwarae o ran y mewnwyr.

Ni allaf gofio gêm lle roedd mewnwr yn Seland Newydd neu dros Seland Newydd o dan bwysau gwirioneddol. Roedd y blaenwyr bob amser yn darparu’r llwyfan mwyaf cadarn ac roedd y mewnwyr yn cael eu diogelu. Cânt eu parchu fel y catalydd i bopeth da a fydd yn digwydd - mae blaenwyr Seland Newydd yn canolbwyntio’n llwyr o safbwynt y ddisgyblaeth hon yn ystod y gêm. Mae’n rhaid i mi achub ar y cyfle hwn i sôn am anrheg hyfryd a gefais gan Sid Going.

Ar ddiwedd y daith ym 1997 daeth Sid i’m hystafell yn y gwesty a rhoi dau o’i grysau Seland Newydd i mi. Roedd yn gwybod na allwn gyfnewid fy nghrysau i oherwydd fel Llewod dim ond dau grys y gallem eu cadw i gofio.

Yn naturiol roeddwn am gadw un i mi fy hun ac roeddwn yn benderfynol o roi’r llall i Glwb Rygbi Aberteifi, fy nghlwb cartref, a oedd wedi fy helpu cymaint ar ddechrau fy ngyrfa. Er bod Sid yn ymwybodol o’n hymrwymiadau roedd hefyd yn gwybod y byddai crys Seland Newydd bron mor werthfawr I chwaraewyr y Llewod â’u crysau eu hunain, oherwydd y cydbarch.

Ni anghofiaf fyth ei arwydd o gyfeillgarwch a’r ymdrech a wnaeth er mwyn i mi fod yn berchen ar grys enwog y Crysau Duon. Roeddwn yn falch o gael chwarae yn ei erbyn ond rwy’n fwy balch o gael ei adnabod.

Byddaf yn cadw llygad barcud ar frwydr Dwayne Peel gyda’I wrthwynebydd o hemisffer y de ac yn gweld pa mor dda y mae’r blaenwyr yn amddiffyn y haneri.

Rwy’n hyderus y bydd y Crysau Duon yn creu argraff da heb amheuaeth oherwydd ei bod yn rhan anhepgor o’u diwylliant rygbi bron fel rydym ni yn ymfalchïo bod ein holwyr yn trin y bêl yn dda. Er bod seren y Scarlets yn cael ei ystyried fel un o’r prif chwaraewyr yn ei safle yn y byd, bydd angen llawer o gymorth arno o hyd i wireddu ei botensial ar ddiwrnod y gêm! Ni fydd diffyg y cymorth felly mae’n rhaid i Gymru fod yn gyfartal â hwy yn yr ardal honno neu ni fydd rheolwr canol y cae yn gallu trefnu’r chwarae yn y ffordd effeithiol y gall wneud.

Os yw o unrhyw werth, mae gennyf deimlad da ynghylch heddiw ac mae Cymru mewn sefyllfa i roi braw. Pe byddai Seland Newydd yn ymlacio ychydig ar ôl cyflawni nod eu taith a threchu Ffrainc gartref yna gallai Cymru fod yn lwcus iawn.

Yn amlwg mae chwaraewyr Cymru yn ystyried chwarae yn erbyn Seland Newydd fel anrhydedd mawr, yn fwy efallai nag i’r gwrthwyneb, felly mae Gareth Jenkins a’i dîm yn barod.

Byddai’n ddiwedd gwych i’w ymgyrch pe gallai efelychu Mike Ruddock yn 2005 drwy arwain Cymru i hawlio buddugoliaeth arall yn erbyn Hemisffer y De! Pob lwc i Stephen a’r tîm.

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot