| Pan ddaw llwyddiant i’r tîm cenedlaethol, boed hynny drwy gicio’r bêl gron neu drafod y bêl hirgron, mae’r cwestwin sy’n mynd o dan fy nghroen i, yn siwr o godi’I ben. Pa un ydi’n gêm genedlaethol ni? Fe ddaeth i’r amlwg ym mis Hydref 2002, ar ôl i’r tîm peldroed guro’r Eidal o ddwy gol i un, ac yna fe ymddangosodd drachefn ym mis Mawrth y llynedd, wedi’r fuddugoliaeth gofiadwy honno gan y tîm rygbi yn erbyn y Gwyddelod i gipio’r Gamp Lawn.
Wel i mi beth bynnag, mae’r ateb yn un digon syml – mae ganddon ni ddwy gêm genedlaethol! Ond nid mynd ar ôl y sgwarnog yna ydi’r bwriad yma, ond yn hytrach ceisio gwerthfawrogi’r dasg sydd gan yr hyfforddwyr cenedlaethol, wrth geisio gwireddu breuddwydion a bodloni disgwyliadau’r cefnogwyr.
Mae’r ddau, wrth reswm yn llygadu’r dyfodol, ac mae’r ddau yn ymwybodol o bwysigrwydd meithrin talent newydd, a rhoi’r cyfle i’r talent hwnnw flodeuo ar y llwyfan rhyngwladol. Mae John Toshack mewn sefyllfa lle mae’n rhaid iddo ddewis nifer fawr o chwaraewyr ifanc, di-brofiad, ac er iddo ddod o hyd i ambell I berl fel Gareth Bale, mi fydd hi’n gryn amser, dybiwn i, cyn i ddilynwyr y bêl gron weld y tîm peldroed yn elwa o’r profiad y mae’r bechgyn ifanc yma yn ei gael.Amynedd pia hi yn fan’na!
Mae’r sefyllfa fymryn yn wahanol i Gareth Jenkins. Pan gamodd James Hook i’r maes yn annisgwyl yn erbyn Awstralia bythefnos yn ôl, roedd rhywun yn rhyfeddu, ac yn ymfalchio, fod chwaraewr ifanc, di-brofiad yn gallu cydio yn yr awennau gyda chymaint o hyder, a hynny, nid yn unig mewn safle gwbl allweddol, ond o dan amgylchiadau digon anodd hefyd. Ar y llaw arall, efo cyfenw fel Hook, doedd hi ddim syndod o gwbl ei weld o’n bachu ar y cyfle! Ond, pa mor bwysig oedd hi iddo fo tybed, fod yna nifer fawr o chwaraewyr profiadol o’i gwmpas o, i’w dywys o ar hyd y daith?
Roedd yna bump o Lewod yn cadw cwmni iddo ymysg yr olwyr, ac roedd yna dri arall yn y pac! Un arall o’r to ifanc sydd wedi gwneud yn fawr o’i gyfle yw’r clo Ian Evans. Fe garlamodd o i’r llwyfan rhyngwladol yn llythrennol yn Ariannin yn yr haf, i sgorio ei gais cyntaf i Gymru ar ôl dim ond unarddeg munud yn y crys coch. Mae’n ymddangos ei fod o wedi dysgu gwers hefyd, ar ôl cael ei wahardd am with wythnos y tymor diwethaf wedi’r drosedd ar Harry Ellis – gwaharddiad oedd yn golygu ei fod o, o bosib, wedi colli cyfle I gynrychioli ei wlad ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Cafwyd perfformiad cadarn a disgybledig ganddo yn erbyn Awstralia. Roedd y gêm bythefnos yn ôl felly, yn garreg filltir i fois y Gweilch, ac i’r bachwr Matthew Rees o’r Sgarlets hefyd, gan mai dyna’r tro cyntaf iddynt wisgo crys coch Cymru yn Stadiwm y Mileniwm, a doedd yr awyrgylch na’r achlysur chwaith, yn faen tramgwydd i’r un ohonyn nhw.Y gobaith ydi y bydd y rhai eraill yn y garfan yn gallu ymateb yn yr un modd pan ddaw eu cyfle hwythau.
Y tîm hyfforddi sy’n bennaf gyfrifol am roi’r bechgyn ifanc yma ar ben ffordd, ac fel sydd wedi ei grybwyll gan sawl un arall yn y gorffennol, mae dod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng y profiad a’r addewid yn gallu achosi tipyn o gur pen. Ond mae yna ddyfnder yn perthyn i’r garfan erbyn hyn, ac mae’r ffaith fod yna 14 o newidiadau yn y tîm a wynebodd Ynysoedd y Môr Tawel yn brawf o hynny. Os am abrofi, rwan ydi’r amser i wneud hynny. Beth fyddai John Toshack yn ei roi tybed i fod yn yr un sefyllfa?
Yn ogystal â’r tîm hyfforddi, mae yna gyfrifoldeb hefyd ar ‘sgwyddau aelodau h_n y garfan, ac er tegwch iddyn nhw, ma nhw’n gosod esiampl penigamp i’r to ifanc. Un ohonyn nhw yn enwedig – Martyn Williams.
Mae yna ddegawd wedi mynd heibio bellach ers iddo fo droedio i’r llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf, ac fe fyddai’n deg I ddweud ei fod o, erbyn hyn, yn hydref ei yrfa. Ond yn wahanol iawn i’r holl ddail sy’n crebachu ac yn marw yn ystod y tymor hwnnw, mae laenasgellwr y Gleision yn parhau i fod yn fytholwyrdd. Roedd y cais sgoriodd o yn erbyn Awstralia yn siarad cyfrolau am ei agwedd, ei ymroddiad a’i frwdfrydedd tuag at y gêm. Chewch chi ddim llwyddiant o gwbl, mewn unrhyw faes, heb i chi weithio yn galed iawn amdano fo, waeth pa mor dalentog yr ydych. Ffrwyth llafur oriau o ymarfer, yn ogystal â’r ddawn gynhenid, sy’n gyfrifol am lwyddiant Martyn Williams, ac nid ar chwarae bach y mae rhywun yn digwydd bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn gymaint o weithiau.
Mae’n argoeli’n dda felly i’r tîm rygbi, ac mae hi’n gyfnod cyffrous gyda Chwpan y Byd ar y gorwel, ac os daw llwyddiant, yna llawenhewch! Ond gochelwch rhag mynd ati i glochdar yn rhy uchel, a cheisio dilorni cefnogwyr y bêl gron yn ormodol. Mae’r rhod yn gallu troi yn ddigon cyflym! Cenedl fechan ydan ni wedi’r cyfan, ac mae yna le I ymfalchio yng ngorchestion y ddwy gêm. Fel y dywedodd Prosser Rhys dro yn ôl – “Bydd Cymru byth, waeth beth fo’I rhawd, ym mêr fy esgyrn i, a’m cnawd” – a sdim ots gen I beth yw siap y bêl!
|