| Heddi mae’r her yn dechre o ddifri i Gareth Jenkins a’i dim hyfforddi newydd. Wrth gyhoeddi ei garfan o 32 ar gyfer gemau’r Hydref, cyfaddefodd hyfforddwr Cymru fod y daith i Ariannin yr Haf diwetha wedi dod yn rhy gynnar iddo fe roi ei stamp arbennig e ar y garfan a’r dull o chware. Fis yn unig cyn y prawf cynta ym Mhorth Madryn ym Mhatagonia y penodwyd ef i’r swydd. Bu’n rhaid gwneud penderfyniad cyflym felly, a’r penderfyniad oedd mentro i Dde America gyda chriw o chwarewyr ifanc a di-brofiad gan fwya, a gadel llawer o’r wynebau cyfarwydd gart re i gael hoe, i weithio ar gyflyru a chryfhau, ac ail danio’r brwdfrydedd.
Ac er colli’r ddwy gem yn Ariannin, mae e’n siwr taw hwnnw oedd y polisi iawn gan fod llawer o’r chwaraewyr mwy profiadol yn dangos egni newydd ar ddechre ’r tymor hwn, a sawl un o’r to iau wedi dangos ar y daith fod ganddyn nhw’r donie a’r gallu i chware ar y llwyfan rhyngwladol. Soniodd am y tri o’r Gweilch, James Hook, Alun Wyn Jones ac Ian Evans yn benodol, gan ychwanegu Gavin Evans y Sgarlets, oedd wedi ei anafu y tymor diwetha, at restr y bechgyn ifanc y bydd Cymru’n pwyso’n drwm arnyn nhw yn y dyfodol.
O ganlyniad i’r ddwy factor honno, a’r ffaith bod chwaraewyr dylanwadol fel Ryan Jones, Brent Cockbain, Tom Shanklin a Kevin Morgan wedi gwella o anafiade hir dymor, roedd e’r wythnos diwetha yn gallu enwi carfan Gareth Jenkins am y tro cynta, yn gymysgwch braf o brofiad ac addewid. Ac roedd enwi Stephen Jones yn gapten yn profi ei fod e’n benderfynol fod hwn yn ddechre cyfnod newydd, ffresh i rygbi Cymru.
Cau’r bennod gythryblus a fu dan arweiniad Gareth Thomas, Mike Ruddock a Scott Johnson. Dechrea dalen lan, newydd ar gyfer y dyfodol. A’r penodiad hefyd gyda llaw yn golygu fod y criw Cymreicia erioed mae’n siwr gen i wrth y llyw gyda’r tim cenedlaethol. Gareth ei hunan o dre ’r Sosban, yn deall digon o Gymraeg i’w gwneud hi’n beryglus iawn i ddweud dim byd amdano! Tri o’r pedwar cyd hyfforddwr, Robin McBryde, Rowland Phillps a Nigel Davies yn siarad yr iaith; a nawr, yn goron ar y cwbwl, capten sy’n Gymro glan, gloyw, yn gynnyrch Ysgol Gymraeg Bro Myrddin yn nhre ’r Dderwen.
Dim tramorwyr felly, a diolch byth am hy n ny! Bois sydd yma sy’n deall yn iawn beth yw anian a greddf y Cymro wrth chware’r gem.A phan ystyriwn ni gymaint fu cyfraniad y Cymry Cymraeg at y llwyddiant a fu dros y bl y nyddoedd, falle bod hy n ny’n argoeli’n dda am yr her sylweddol sydd I ddod dros y deuddeg mis nesa!
Penllanw’r cyfnod hwnnw wrth gwrs fydd Cwpan y Byd yn Ffrainc fis Medi nesa, a bu’r paratoi yn drylwyr yn barod. Datgelodd Gareth Jenkins fod cynllun manwl iawn eisioes wedi ei osod yn ei le; mor fanwl nes ei fod e’n gwybod yn barod beth fydd yn digwydd ar bob un diwrnod o hyn hyd at gem agoriadol Cwpan y Byd yn erbyn UDA yn Naoned – Nantes – yn Llydaw ar y nawfed o Fedi. Pob diwrnod felly wedi ei gynllunio am yr un mis ar ddeg nesa, cyfnod fydd yn cynnwys pedair gem ar ddeg i’r tim cenedlaethol.Yn naturiol felly, fe fydd ‘na un llygad ar Naoned; ond mae ‘r hyfforddwr yn bendant nad amser i arbrofi fydd y cyfnod iddo. Yn sicir, dim arbrofi er mwyn arbrofi’n unig.
Ennill fydd ei brif flaenoriaeth bob tro.Mae’n fwriad ganddo ro i cyfle i bob un o’r 32 i gael blas o’r llwyfan rhyngwladol rywbryd yn ystod yn ystod y mis yma, ac yn amlwg mae dwy o’r gemau, yn erbyn Canada ac Y nysoedd Mor y De yn mynd i fod dipyn haws na’r ddwy arall, heddi, ac ar Sadwrn ola’r mis yn erbyn Seland
Newydd.Yn y ddwy gem ganol felly yn naturiol y bydd rhai o’r bechgyn iau yn cael eu cyfle. Ond mae Gareth yn pwysleisio na fydd e’n dewis unrhyw dim os nad yw e’n credu y gall y tim hwnnw ennill ar y cae.Ac os bydd hynny’n golygu bod dau neu dri o’r garfan yn cael eu siomi, wel c’est la vie.
A’r un fydd y polisi am y cyfnod cyfan. Ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad fydd y prif nod wrth ddechre’r flwyddyn newydd; nid aberthu ambell gem er mwyn paratoi am Gwpan y Byd ar y gorwel.Ar lwyddiant Cymru yn y Bencampwriaeth y caiff e’I farnu i ddechre meddai, ac mae’n benderfynol o geisio ennill parch pawb yn gynnar ar ol aros cyhyd am y cyfle i wireddu breuddwyd a hyfforddi ei wlad. Pedwar bloc o gemau yw’r misoedd nesa iddo fe, gan gynnwys y daith I Awstralia’r haf nesa, a phob un yn bwysig yn ei rhinwedd ei hunan yn ogystal a bod yn gam arall ar hyd y daith i Ffrainc ym mis Medi.
Mae’r hy f f o rddwr newydd yn am lwg wedi cynllunio’n ofalus; mae’n gwybod yn gwmws i ba gyfeiriad mae am fynd. Ond nid cynlluniwr tawel yn unig mo Gareth Jenkins. Mae ‘na dan yn ei fol; mae ‘na angerdd yn ei bersonoliaeth; y tebyca welson ni i Clive Rowlands mae’n siwr ers dyddie da’r saithdege. “Calon” oedd gair mawr Clive; bu hyn ny’n help i fynd a Chymru i’r trydydd safle yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd ym
1987.
Mae’r un gallu gan Gareth Jenkins i ysbrydoli; i bwysleisio i’r chwa r a ewyr faint o fraint yw hi i gynrychioli Cymru ar y maes rygbi. Mae’r her wedi ei gosod felly. Dyma ddechre pennod newydd, taith newydd; ac mae’r daith honno’n dechre yma heddi yn erbyn Awstralia.
|